Cynthia Ozick

Cynthia Ozick
GanwydCynthia Shoshana Ozick Edit this on Wikidata
17 Ebrill 1928 Edit this on Wikidata
Dinas Efrog Newydd Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Unol Daleithiau America Unol Daleithiau America
Alma mater
Galwedigaethnofelydd, ysgrifennwr, awdur storiau byrion Edit this on Wikidata
Gwobr/auCymrodoriaeth Guggenheim, Medal y Dyniaethau Cenedlaethol, Gwobr PEN/Diamonstein-Spielvogel am Gelfyddyd y Traethawd, Gwobr PEN/Malamud, Gwobr O. Henry, honorary doctor of Brandeis University, honorary doctor of Georgetown University Edit this on Wikidata
llofnod

Awdures Iddewig, Americanaidd yw Cynthia Ozick (ganwyd 17 Ebrill 1928) sy'n cael ei hystyried yn nodigedig am ei nofelau, ei straeon byrion a'i thraethodau.

Ganed Cynthia Ozick yn Ninas Efrog Newydd, yr ail o ddau blentyn. Symudodd i'r Bronx gyda'i rhieni o Rwsia, Celia (Regelson) a William Ozick, perchnogion Fferyllfa Park View yng nghymdogaeth Bae Pelham. Fel merch, helpodd Ozick i rannu'r presgripsiynau i gwsmeriaid ei rhieni. O'i hamser yn y Bronx, mae'n cofio cerrig yn cael eu taflyd arni a chael ei galw'n "lladdwr Crist" wrth iddi redeg heibio'r ddwy eglwys yn ei chymdogaeth. Yn yr ysgol cafodd ei chywilyddio'n gyhoeddus am wrthod canu carolau Nadolig. Mynychodd Ysgol Uwchradd Hunter College yn Manhattan.[1][2][3][4]

Enillodd ei B.A. o Brifysgol Efrog Newydd ac aeth ymlaen i astudio ym Mhrifysgol Talaith Ohio, lle cwblhaodd M.A. mewn llenyddiaeth Saesneg, gan ganolbwyntio ar nofelau Henry James.[5]

Mae Ozick yn briod â Bernard Hallote, cyfreithiwr. Mae eu merch, Rachel Hallote, yn athro cysylltiol hanes yn SUNY Purchase ac yn bennaeth ar ei rhaglen astudiaethau Iddewig. Ozick yw nith yr Hebraist Abraham Regelson. Mae hi'n byw yn Westchester County, Efrog Newydd.[5]

  1. Cyffredinol: http://data.bnf.fr/ark:/12148/cb12024884w. ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015.
  2. Rhyw: Deutsche Nationalbibliothek; Staatsbibliothek zu Berlin; Bayerische Staatsbibliothek; Llyfrgell Genedlaethol Awstria (yn de), Gemeinsame Normdatei, Wikidata Q36578, https://gnd.network/, adalwyd 28 Ebrill 2014 http://data.bnf.fr/ark:/12148/cb12024884w. ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015.
  3. Dyddiad geni: Deutsche Nationalbibliothek; Staatsbibliothek zu Berlin; Bayerische Staatsbibliothek; Llyfrgell Genedlaethol Awstria (yn de), Gemeinsame Normdatei, Wikidata Q36578, https://gnd.network/, adalwyd 28 Ebrill 2014 "Cynthia Ozick". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Cynthia Ozick". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Cynthia Ozick". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Cynthia Ozick". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Cynthia Ozick". "Cynthia Ozick". "Cynthia Ozick". Cyrchwyd 9 Hydref 2017.
  4. Man geni: Deutsche Nationalbibliothek; Staatsbibliothek zu Berlin; Bayerische Staatsbibliothek; Llyfrgell Genedlaethol Awstria (yn de), Gemeinsame Normdatei, Wikidata Q36578, https://gnd.network/, adalwyd 15 Rhagfyr 2014
  5. 5.0 5.1 Profile: Cynthia Ozick Archifwyd 2012-04-23 yn y Peiriant Wayback.

© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search